Meistroli Techneg Canu'r Delyn
Meistroli Techneg Canu'r Delyn  Ref: Alaw087
Meistroli Techneg Canu'r Delyn
Fel yr ysgrifenna Kathryn Rees yn ei rhagymadrodd i’r llyfr:

“Dechreuodd fy nhaith ar drywydd datblygu sylfaen technegol da yn hwyrach yn fy hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn dechrau fy ngradd mewn conservatoire, a than y pwynt hynny doeddwn heb sylweddoli pwysigrwydd techneg gadarn. Felly, yn sydyn iawn, roeddwn ar gwrs gradd oedd yn mynnu ar yr egwyddorion sylfaenol hyn. O ganlyniad, sylweddolais yn eithaf cyflym bod y newidiadau yn fy chwarae yn trawsnewid fy sain a rhwyddineb fy mherfformio mewn ffordd ddramatig."

Mae’r tiwtor newydd hwn i’r delyn wedi’i ysgrifennu gan Kathryn Rees, a gafodd ei hapwyntio yn 2022 yn Bennaeth Adran y Delyn, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Kathryn yn delynores amryddawn ac yn athrawes wych sydd yn sicrhau seiliau technegol cadarn i bob un o’i disgyblion.

Fel y dywed yn y bennod gyntaf:

“Mae’n syniad da i wirio’r egwyddorion mwyaf sylfaenol yn fanwl, gan ddechrau gyda’r ffordd yr ydych yn eistedd a dal eich hun wrth y delyn. Mae’n hawdd datblygu arferion anghywir yn anfwriadol, ac o ganlyniad amharu ar eich datblygiad a’ch sain."

Wedi’i argymell gan Skaila Kanga, mae’r llyfr hwn yn trin hanfodion canu’r delyno’r camau cyntaf hyd at dechnegau uwchraddol - ac felly gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i athrawon (ac efallai hefyd i riant!), gan arwain y myfyriwr i ddatblygu chwarae cadarn fydd yn arwain at sain brydferth a chwarae deallus yn llawn mynegiant. Mae’r llyfr yn cynnwys 27 o ymarferiadau a 9 Etude.

Intermediate to advanced level.

FOREWORD
By Professor Skaila Kanga,
Professor Emerita of Harp, Royal Academy of Music, London.
When Kathryn first mentioned that she was writing a book on harp technique I
was delighted, as over the years many of her students who have come to study
at London's Royal Academy of Music have impressed me greatly with their solid
technical foundation. This has meant their progress musically has been
unfettered by months of remedial work.
What is outstanding in this book is the gradual building up of security of hand
position, common sense explanation of every step and each part of basic harp
technique explained clearly with warnings of what can go wrong!
It is important to spend each day slowly learning and repeating each exercise
paying great attention to the tone quality and evenness of each finger. With due
diligence and patience Kathryn’s students have proved this approach has given
them such a head start in their musical studies.
I particularly liked the paragraphs on warming up, footwear and gigs! I highly
recommend this book to all teachers and students of all ages.
Professor Skaila Kanga, September 2025.